Milwyr Sion cym'rwn galon

1,(2).
(Milwyr Seion)
Milwyr Seion cym'rwn galon,
  Gwisgwn arfau'r nef yn llawn,
Byddwn gedyrn yn y frwydr,
  Tra parhao'n byr brydnawn;
Y mae hyfryd fore tawel
  Rhanu'r ysbail bron gerllaw;
Melus seiniwn fuddugoliaeth,
  Cyn bo hir yr ochr draw.

O fy enaid, dysgwyl ronyn,
  Paid er dim a llwfrhau;
Er cael llawer brwydr galed,
  Y mae'r olaf yn nesâu;
Caf gyfarfod
    â'm cydfilwyr,
  Aeth trwy'r frwydr o fy mlaen;
Yna seiniwn, "Buddugoliaeth!"
  O un galon ac un gân.
1: An. (Cas. o dros 2000 o Hymnau [S Roberts] 1841)
2: 1782 Dafydd William 1720-94

[Mesur: 8787D]

gwelir:
  Duw llefara wrth fy ysbryd
  Iesu cyfaill pechaduriaid
  Wele Iesu'r Pen rhyfelwr

(Soldiers of Zion)
Soldiers of Zion, let us take heart,
  Let us wear the full armour of heaven,
Be firm in the battle,
  While the short evening lasts;
The delightful quiet morning of
  Sharing the spoils is almost at hand;
Sweetly we shall sound victory,
  Before long on yonder side.

O my soul, wait a while,
  Do not for anything lose heart;
Although getting many a hard battle,
  The last one is approaching;
I shall get to meet
    with my fellow-soldiers,
  Who went through the battle before me;
Then let us sound, "Victory!"
  From one heart and one song.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~